Asesu wedi'i wneud yn syml

Pam Tyfu?
Mae Tyfu yn adnodd cynhwysfawr ar gyfer gwella ysgolion, wedi'i deilwra'n fanwl i'r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n cynnig portffolios digidol i fyfyrwyr, cysylltiadau ag adnoddau ADY sy’n cefnogi dysgwyr mwy agored i niwed, offeryn olrhain syml ond pwerus sy’n cynnwys nodweddion ar gyfer uwch arweinwyr, ac offeryn hunanwerthuso i roi’r holl wybodaeth ddiweddaraf i chi am bob agwedd ar eich ysgol.
I bwy mae'n gweithio
Athrawon
Mae Tyfu yn cyflymu’r broses o gasglu gwybodaeth asesu, boed hynny drwy’r portffolio digidol neu’r offeryn olrhain syml ond effeithiol, gan lywio’r broses o wneud penderfyniadau. Mae hefyd yn caniatáu i adborth gael ei roi i ddysgwyr yn gyflym ac yn syml, gan leihau llwyth gwaith a gwella cysondeb asesu ac adborth.
Mae Tyfu yn galluogi dysgwyr i chwarae rhan ragweithiol yn eu dilyniant. Gallant uwchlwytho tystiolaeth i’w portffolios digidol eu hunain (a chysylltu â Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig lle bo’n briodol i’w hoedran) a chael adborth gan athrawon mewn amser real. Gall ysgolion hefyd ddewis rhoi mynediad at bortffolios i rieni, a defnyddio Tyfu ar gyfer cyfathrebu cyffredinol.
Uwch Dîm Arwain
Mae Tyfu yn rhoi mynediad hawdd i'r Uwch Dîm Arwain at wybodaeth asesu fesul unigolyn, dosbarth, grŵp neu grŵp blwyddyn mewn amser real. Mae'r nodwedd ysgol ar dudalen yn galluogi'r Uwch Dîm Arwain i ystyried gwybodaeth asesu a chynnydd ochr yn ochr â chyd-destun cyffredinol yr ysgol, tra bod yr offeryn hunanasesu yn rhoi'r gallu i ddeall lle mae'r ysgol o ran ei chynllun tymor hwy.
Mae'r nodweddion cynhwysfawr yn Tyfu hefyd yn arbed costau sylweddol gan ei fod yn dileu'r angen am fwy nag un platfform meddalwedd.
Ymgynghorwyr Her
Gellir cyflwyno gwybodaeth hunanwerthuso, dilyniant ac asesu'r ysgol a gwybodaeth gyd-destunol o fewn ychydig o gliciau/tapiau i ymgynghorwyr her. Gall hyn helpu i arbed amser i UDA ac ymgynghorwyr her, a rhoi darlun cyflawn o'r ysgol mewn amser real.
Dyma sut
Diogelwch Data
Yn Tyfu rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif. Nid oes unrhyw ddata'n cael eu storio ar ddyfeisiau lleol, ond ar weinyddion mewn warysau data wedi'u dilysu gan ISO27001. Rydym ar hyn o bryd yn cael archwiliad achrediad ISO27001/2 - gweler ein blog yma!